hafan 
 newyddion 
 beth ydi trac
      pwy ydy pwy
      polisïau
 dawnsio
 cerddorion
 chwedleuwyr
 cylchgrawn ontrac
 yr arbrawf mawr
 datganiad gregynog
 gwneuthurwyr offerynnau
 sesiynau / canu
 clybiau gwerin
 gwyliau
 dolenni
 
 english 
 trac
 Blwch Post 428, 
 Caerdydd,  CF11 1DP
 trac@trac-cymru.org
 029 20 318863
 07811 955 592
 

 

newyddion  

Karen Tweed yn yr Arbrawf Mawr 2010
22 - 25 Hydref 2010

Bydd Big Experiment/Arbrawf Mawr yn ôl yn yr Hydref, diolch i Gyngor Celfyddydau Cymru, gyda Karen Tweed fel tiwtor gwadd, yn ymuno Siân James, Stephen Reees, Neil Browning ac Arfon Gwilym.

Bydd rhagor o weithdai, alawon, caneuon, sesiynau, tiwtorialau … tri diwrnod o gerddoriaeth yng nghwmni rhai o diwtoriaid gorau’r maes ac eleni bydden ni yn ôl yn y Gogledd, yng Nghanolfan Conwy ar Ynys Môn.

Bydd dosbarth grŵp bob bore, gweithdai bob prynhawn, sgyrsiau, sesiynau a digon o amser i greu cerddoriaeth gyda’n gilydd.

Bydd fwy o fanylion yng ngylchgrawn Ontrac nesa.


Nodiadau cynhadledd Cerddoriaeth Draddodiadol CCC

Dyma nodiadau y gynhadledd undydd arloesol a gynhaliwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a trac. Mae’r ddogfen, sydd ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg, yn cynnwys cyfraniadau oddiwrth David Francis o Fforwm Cerddoriaeth Draddodiadol yr Alban, Paul Flynn o Gelfyddydau Gogledd Iwerddon, Siân Thomas o trac, yn ogystal â throsolwg o drafodaethau’r diwrnod gan Einion Dafydd o Gyngor Celfyddydau Cymru.

Cysylltwch â
Gallwch lawrlwytho eich copi yma mewn ffurf PDF. Croeso i chi anfon eich meddyliau ar y pwnc at swyddfa trac ar trac@trac-cymru.org
Mae`r fersiwn Saesneg ar gael gan dewis `Saesneg` o`r rhestr ar y chwith a mynd at ochr Saesneg y wefan.

download file (230k)

Ymunwch â gwasanaeth newyddion ebost trac

Ydych chi`n derbyn newyddion e-bost o trac? Os ydych yn colli allan, anfonwch ebost atom i ymuno â`n e-grwp i gael newyddion am ddigwyddiadau gwerin ar hyd a lled Cymru.


Oes ganddoch chi eitem yr hoffech ei gweld yma? Cysylltwch â swyddfa trac – mae’r cyfeiriad ebost ar y chwith.


newyddion | beth ydi trac | dawnsio | cerddorion | chwedleuwyr | cylchgrawn ontrac
  yr arbrawf mawr | datganiad gregynog | sesiynau / canu | clybiau gwerin | gwyliau | cysylltiadau

Powered by WebRing.

© trac 2010