Yr Arbrawf Mawr
Eich barnau ar BEAM 2008 ...
“Rhywbeth at dant pawb ... Safon y tiwtoriaid – gwych!”
“Braf cael 3 noson i ddod i nabod pobl yn well yn ogystal â mwy o amser yn y gweithdai” ...
“Ardderchog – a chant a mil o ddiolch!! `
Yr Arbrawf Mawr 2010
Mae trac yn eich croesawu i’r trydydd Arbrawf Mawr. Hon yw ysgol werin Cymru; tridiau byrlymus yn llawn dop o awyrgylch wych gyda rhai o diwtoriaid gorau byd cerddoriaeth draddodiadol. Mae’n weithdai; yn sesiynau; yn ganeuon ac yn alawon a ... hwyl.
Unwaith eto bydd adrannau ar gyfer offerynwyr o bob safon, cantorion ac - *** YN NEWYDD YN 2010*** - DAWNS!
Mae Arfon Gwilym yn ôl eleni felly fe fydd rhagor o ganu Plygain a pherlau eraill o’r traddodiad canu gwerin.
Bydd cerddorion lefel Sylfaen unwaith eto yn nwylo diogel yr offerynnwr amlochrog Neil Browning.
Fe fydd dewis o ddau grwp: gyda’r
Bydd y delynores Siân James a ffidlwr/chwaraewr cordial Stephen Rees yn arwain grwp bob un ar lefel ganolig.
A thiwtor gwadd arbennig eleni bydd Karen Tweed, yn arwain y grwp profiadol
CAWN DDAWNSIO!
Os ydych o’r farn mai “Jac y Do” a “Tŷ Bach Twt” yw uchafbwynt dawnsio Cymreig, i chi y mae’r adran newydd hon! Bethan a Huw Roberts o dîm dawnsio Ddawnswyr Bro Cefni ym Môn fydd ein tiwtoriaid hynod brofiadol
Dosbarthiadau meistr a gweithdai arbennig
Fe fydd rhai gweithdai unigol prynhawn ar agor i bobl nad ydynt wedi bwcio ar gyfer y cwrs cyfan. Rhagor o fanylion nes ymlaen, ond ceir dosbarthiadau meistr ar delyn a ffidl; blas ar grwth a thelyn; a Sesiynnau “Bron yn Medru Ei Chwarae”.
Bydd yr Arbrawf Mawr yn cynnig hyfforddiant, cerddoriaeth, sgiliau a chwmni da i offerynwyr, cantorion a dawnswyr. Nid ar gyfer y dechreuwr llwyr y mae’r cwrs – yn enwedig offerynwyr – ond fe fydd rhywbeth ar gyfer pawb, o’r araf hyd at y aeddfed.
Lle?
Eleni fe wahoddwyd y cwrs i Ganolfan Conwy, canolfan breswyl ar dir yr hanesyddol Plas Newydd ym Môn. Mae’r prisiau yn amrywio o £110 (graddfa ostyngol £80) i rai sydd heb fod angen aros dros nos, i £120 (gostyngiad £90) ar gyfer gwely mewn ystafell fawr, £170 (gostyngiad £140) ar gyfer ystafell ddau wely a £190 (gostyngiad £160) ar gyfer ystafell sengl. Mae manylion llawn yn y daflen. Bwcio hwyr: ar ôl 1 Medi, ychwanegir £20 download file (356k)
|